Cynghorydd Aaron Wynne

Mae Aaron yn redwr pellter hir brwd sy’n hoffi cystadlu yn y gamp hon. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.

“Fe ymgeisiais i mewn etholiad yn 2017 pan oeddwn i’n 20 oed. Fe benderfynais i fy mod i eisiau helpu fy nghymuned a sicrhau bod fy nhref enedigol yn cael cynrychiolaeth dda. Fel person ifanc sydd eisiau parhau i fyw a gweithio’n lleol, rydw i'n ymwybodol iawn o ba mor anodd ydi hynny. Mae nifer o fy ffrindiau eisoes wedi gadael yr ardal i chwilio am waith a chartref. Mae hyn yn anghyfiawnder mawr yn fy marn i, a doeddwn i ddim am aros i rhywun arall geisio datrys y problemau hyn. Mae yna le i bobl o bob oed a chefndir mewn gwleidyddiaeth leol – fe fyddwn i’n eich annog chi i gymryd rhan.”

Mae Aaron yn Aelod Craffu.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)