Gallwch chi sefyll i'ch ethol yn ymgeisydd annibynnol neu'n ymgeisydd grŵp/plaid wleidyddol. Os ydych chi’n aelod o blaid neu’n bwriadu ymuno neu sefyll fel aelod o blaid wleidyddol bydd ei hasiantau yn gweithio ar eich rhan. Os ydych chi’n sefyll fel aelod annibynnol, bydd angen i chi ofyn am gyngor gan asiantau gwahanol.
Mae rhagor o wybodaeth am bleidiau gwleidyddol, eu gwefannau a'u polisïau allweddol yn etholiad Senedd 2021 ar gael ar wefan y BBC yma (Saesneg yn unig). Os oes eisiau mwy o wybodaeth arnoch am rôl cynghorydd annibynnol, mae gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol grŵp (Saesneg yn unig) ar gyfer cynghorwyr annibynnol.
Mae rhestr lawn o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ar gael gan y Comisiwn Etholiadol.
Os ydych chi’n cefnogi plaid wleidyddol, maent yn chwilio nawr am bobl sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu plaid. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n aelod o blaid yn barod, gallwch ymuno’n hawdd. Mae rhai pleidiau yn ei gwneud yn ofynnol i chi fod wedi bod yn aelod am gyfnod penodedig cyn i chi fod yn gymwys i fod yn ymgeisydd.
Os ydych chi wedi cael eich dethol gan blaid fel ymgeisydd neu os ydych chi’n sefyll fel ymgeisydd annibynnol, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydych wedi eich gwahardd rhag sefyll a rhaid i chi gael eich ‘enwebu’ yn swyddogol.
Mae canllawiau a gwybodaeth lawn i ymgeiswyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Bydd gwefannau etholiadau cynghorau hefyd yn cynnwys canllawiau gan gynnwys unrhyw derfynau amser ac amserlenni perthnasol.
Bydd Swyddog Canlyniadau lleol yn cyhoeddi etholiad drwy gyhoeddi Hysbysiad o Etholiad o leiaf 25 diwrnod cyn yr etholiadau lleol nesaf. Bydd angen i chi gyflwyno set gyflawn o bapurau enwebu i'r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm ar y 19 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Mae dau bapur enwebu y mae'n rhaid i chi eu cyflwyno er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys:
- y ffurflen enwebu
- ffurflen cyfeiriad cartref.
Rhaid i chi gynnwys datganiad o aelodaeth plaid yn nodi a ydych wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol ar unrhyw adeg yn y 12 mis diwethaf cyn cyhoeddi'r hysbysiad etholiad.
Gallwch gael gwybod sut y gallwch gael papurau enwebu o swyddfa etholiadau'r cyngor neu wefan y Comisiwn Etholiadol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sefyll i'ch ethol edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin am wybodaeth am gyfleoedd mentora a chysgodi.