Bydd pob cyngor yn cynnal rhaglen gyfeiriadu i aelodau newydd i ddangos i chi ble mae pawb a phwy ydyn nhw, ac yn dilyn hyn mae rhaglen gynefino i’ch helpu i ddeall eich rôl, gweithdrefnau’r cyngor a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch chi, er enghraifft cadeirio cyfarfod neu gymryd rhan mewn cyfweliad radio. Bydd hyfforddiant parhaus yn cael ei ddarparu yn ôl eich anghenion.
Bydd y sesiwn e-ddysgu hon yn eich helpu i ddechrau arni.
Mae cynghorwyr yn treulio'r hyn sy'n cyfateb i o leiaf dridiau'r wythnos ar fusnes y cyngor, ond mae llawer yn disgrifio’r swydd fel un amser llawn. Mae llawer o gyflogwyr yn cydnabod gwerth gwaith cynghorwyr a’r sgiliau bydd eu cyflogeion yn eu hennill yn y rôl, felly maent yn rhoi amser i ffwrdd neu’n caniatáu gweithio’n hyblyg i gyflogeion sydd hefyd yn gynghorwyr.
Mae gan gynghorwyr hawl i dderbyn cyflog yn gyfnewid am yr ymrwymiad a’r cyfraniad maent yn eu gwneud.
Mae pob cynghorydd yn derbyn cyflog sylfaenol. Bydd y cynghorwyr hynny sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol fel bod yn aelod cabinet, cadeirydd pwyllgor neu arweinydd grŵp gwleidyddol yn derbyn taliad ychwanegol. Yr enw ar hyn yw 'cyflog uwch' a chaiff ei gyfrifo ar sail maint y cyngor.
Nid yw cynghorwyr yn pennu eu cyflogau eu hun mae’r fframwaith ar gyfer cyflogau cynghorwyr yn cael ei bennu gan gorff o’r enw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Y cyflog sylfaenol ar gyfer 2024/25 yw £18,666.
Mae gan Gynghorwyr hefyd hawl i lwfansau teithio. Gallwch hefyd hawlio eich cyflog tra’n cymryd absenoldeb teulu fel absenoldeb rhiant. Mae gan gynghorwyr fynediad hefyd i gynllun pensiwn llywodraeth leol.
Mae cynghorwyr sydd â theuluoedd ifanc, cyfrifoldebau gofalu am berthnasau eraill neu anghenion cymorth personol yn gallu derbyn cefnogaeth ariannol ychwanegol yn ogystal â threfniadau gweithio hyblyg.
Mae gan gynghorwyr hawl i gyfraniad tuag at gostau gofal yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt, neu eu cymorth personol eu hunain.
Mae gan gynghorwyr hefyd yr hawl i drefniadau ‘absenoldeb teuluol’ â thâl mewn perthynas ag absenoldeb mamolaeth, tadolaeth ac fel rhiant mabwysiadol. Mae’r gyfraith yn newid a bydd hyn yn rhoi mwy fyth o hyblygrwydd i gynghorwyr. Mae gan gynghorwyr hawl i ‘absenoldeb salwch’ â thâl hefyd.
Mae arolygon yn cael eu cynnal o leiaf unwaith y tymor ymhlith cynghorwyr i bennu’r amserau cyfarfod mwyaf cyfleus; yn anffodus mae amserau cyfarfod yn gallu bod yn anghyfleus i rai gan fod pobl wahanol yn ffafrio amserau gwahanol – bydd rhai rheini ifanc efallai’n ffafrio cwrdd yn ystod y dydd tra bydd eraill efallai o blaid cwrdd gyda’r hwyr, yn dibynnu ar argaeledd gofal plant neu ymrwymiadau gwaith. Fodd bynnag, yn aml bydd cyfle i fod yn hyblyg o ran rhai cyfarfodydd pwyllgor neu anffurfiol.
Gellir cynnal cyfarfodydd y Cyngor o bell erbyn hyn. Gall cynghorwyr fynychu ar lein a gellir darparu cyfarpar iddynt wneud hynny o’u cartref.