Cynghorydd Anne Mccaffrey

Mae Anne yn Gadeirydd Llywodraethwyr ysgol y pentref lleol; mae bellach wedi ymddeol o yrfa brysur yn y maes AD, ac mae'n arddwr, cerddwr a hanesydd teulu brwd. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.

“Doedd ymgeisio i fod yn gynghorydd ddim yn rhan o fy nghynllun i; rhywbeth munud olaf oedd o i mi. Ond rydw i’n mwynhau’r gwaith yn arw ac yn gweld y gallaf gyflawni llawer a chael dylanwad go iawn ar benderfyniadau am wasanaethau y mae pobl leol yn dibynnu arnyn nhw.

Yn lleol, ers 2012, rydw i wedi helpu i wella ein parc chwarae coetir, ymestyn ein hysgol a thrawsnewid ymddangosiad allanol ein neuadd bentref. Dyna i chi flas yn unig – mae yna wastad fwy i’w wneud! Pan mae adnoddau’n cael eu dyrannu a phenderfyniadau’n cael eu gwneud, mae’n hawdd anghofio am bentref bychan fel ein un ni; gall llais lleol cryf wneud gwahaniaeth go iawn. Mae’n ymwneud â phobl hefyd a helpu i ddatrys problemau pan fo angen estyn help llaw.

Dydi bod yn Gynghorydd ddim fel bod mewn swydd. Mater i chi ydi faint o oriau rydych chi’n eu rhoi i’r gwaith ac mae yna ddigon o gymorth a chefnogaeth ar gael. Chi sy'n gyfrifol am yr hyn rydych chi’n ei wneud a phryd y byddwch chi’n ei wneud o, felly mae’n hawdd ffitio’r gwaith o’ch amgylch chi a’ch teulu.

Rydw i wedi cael fy ethol ddwywaith bellach, ac wedi dal rôl cabinet ddwywaith. Credaf fod angen gwell cymysgedd o bobl leol mewn cynghorau os ydyn nhw wir am gynrychioli’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Credaf fod angen i fwy o ferched gymryd rhan. Rydyn ni'n dda am wybod beth sydd angen ei wneud a gwneud hynny. Mae o yn ein DNA.

Meddyliwch am y peth, o ddifrif! Fe allwch chi wneud hyn. Fe allwch chithau hefyd fod yn gynghorydd. Mae’n wych."

Mae Anne yn aelod o Bwyllgor Craffu a’r pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)