Cynghorydd Emma Leighton-Jones

Mae Emma’n chwarae mewn band samba, ymysg llu o ddiddordebau eraill; mae’n aelod gweithgar o’r gymuned leol ac yn hyfforddwr diogelu rhan amser. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.

“Fe ymgeisiais i i fod yn gynghorydd er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned. Dydw i erioed wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol nac wedi fy ystyried fy hun yn arbennig o wleidyddol, ond fe sylweddolais fy mod eisiau mynegi fy marn ac eisiau cael fy nghlywed, eisiau gwneud gwahaniaeth. Ar ôl cryn bendroni, fe ymgeisiais i yn yr etholiad yn 2017 fel ymgeisydd annibynnol. Bu’n rhaid i mi ddysgu llawer yn gyflym iawn, ond teimlaf fy mod wedi llwyddo i ddylanwadu ar newid pan oeddwn i’n credu fod angen gwneud hynny. Fe fyddwn i’n argymell i unrhyw un fod yn gynghorydd. Mae’n waith caled ond yn werth chweil."

Mae Emma yn Aelod Cabinet Moderneiddio.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)