Mae cynghorwyr presennol yn dweud bod hyn yn beth pleserus iawn i’w wneud sy'n rhoi tipyn o foddhad, hyd yn oed os yw’n heriol ac yn gallu peri rhwystredigaeth ar adegau! Gallwch chi wneud gwahaniaeth positif i’ch cymunedau. Byddwch chi efallai’n helpu unigolyn sy’n cael anawsterau cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, neu’n gwneud yn siŵr bod y cyngor yn gwario arian ar yn hyn sydd o’r pwys mwyaf i bobl yn y gymuned. Gallwch chi ddylanwadu sut olwg sydd ar eich ardal, sut mae pobl yn derbyn addysg a gofal ac annog pawb i gymryd rhan.

Fel cynghorydd mae pob dydd yn wahanol, byddwch chi’n dysgu sgiliau gwerthfawr fel sut i siarad yn gyhoeddus neu gadeirio cyfarfod, deall sut mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio, cwrdd â llawer o bobl wahanol a, gobeithio, gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae cynghorwyr, ar gyfartaledd, yn ymrwymo amser cyfwerth â thri diwrnod yr wythnos i’r rôl. Mae hyn yn gallu bod yn heriol ond mae llawer o gynghorwyr yn llwyddo i’w wneud. Nid yw holl ymrwymiadau'r cyngor yn ystod y diwrnod gwaith; maen nhw’n gallu bod gyda’r hwyr neu ar benwythnosau hefyd. Mae o gymorth os ydy’ch cyflogwr yn gallu rhoi amser i ffwrdd i chi ar gyfer dyletswyddau cyngor, fel mynychu cyfarfodydd. Mae’n syniad da siarad â nhw am hyn cyn sefyll. Mae’r sgiliau a ddysgwch chi fel cynghorydd a’ch cysylltiadau â’r gymuned yn gallu bod o fudd i’ch cyflogwr.

Mae rhai rolau, fel arweinwyr ac aelodau cabinet, yn cael eu hystyried yn rhai amser llawn ar y cyfan, ond mae rhai aelodau yn llwyddo i gynnal eu swydd mewn man arall.

Bydd cynghorau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu ar eich cyfer chi, fel amrywio amserau cyfarfodydd er mwyn i chi gael eu mynychu. Gallwch chi fod yn glir iawn gyda’ch etholwyr am yr adegau y byddech chi’n gallu cwrdd â nhw, derbyn eu galwadau ffôn ac ymateb i e-bost fel nad yw'r cyfan yn eich llethu.

Mae cynghorwyr yn gallu hawlio ad-daliad am gostau gofalu am blant neu berthnasau oedrannus neu anabl. Ar hyn o bryd gallwch chi hawlio hyd at £403 y mis i dalu gofalwyr er mwyn i chi allu ymgymryd â busnes cyngor, er enghraifft teithio i gyfarfodydd a mynychu cyfarfodydd.

Bydd, bydd y cyngor yn gwneud trefniadau hygyrchedd sydd eu hangen arnoch chi. Mae’n rhaid i adeiladau cyngor fod yn hygyrch i bobl anabl, o dan y gyfraith. Bydd cymorth yn cael ei roi i chi hefyd ar gyfer eich anabledd penodol. Hefyd mae cynghorwyr yn gallu hawlio hyd at £403 y mis i dalu am gymorth gofalu, a gall cynghorwyr ddefnyddio hyn ar gyfer eu hanghenion cymorth gofal eu hunain.

Yn ogystal mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu Cynllun Mynediad i Swydd Etholedig i ddarparu cymorth a thalu rhai costau i bobl anabl sy’n dymuno sefyll mewn etholiad.

Mae llawer o bobl yn dod yn gynghorwyr am eu bod nhw eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau neu eisiau cynrychioli pobl leol. Mae eraill yn aelodau o bleidiau gwleidyddol ers tro ac yn meddu ar safbwyntiau a gwerthoedd gwleidyddol cadarn. Mae’r naill neu'r llall yr un mor ddefnyddiol i ddod yn gynghorydd lleol. Mae gwleidyddiaeth leol yn tueddu i ymwneud mwy â beth sydd ei angen ar bobl leol yn hytrach na maniffestos gwleidyddol y pleidiau cenedlaethol.

Mae pob cynghorydd yn derbyn cyflog sylfaenol. Yn 2020/21 mae’n £14,218. Hefyd mae gan gynghorwyr hawl i lwfansau teithio. Gall y sawl sydd â chyfrifoldebau gofalu dderbyn lwfans gofalu ychwanegol hefyd o hyd at £403 y mis. Gallwch hawlio’ch cyflog hefyd tra'ch bod yn cymryd absenoldeb teuluol fel absenoldeb rhiant.

Bydd y cynghorwyr hynny sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol fel bod yn aelod cabinet, cadeirydd pwyllgor neu arweinydd grŵp glweidyddol yn derbyn taliad ychwanegol. Yr enw ar hyn yw cyflog uwch-swyddog a chaiff ei gyfrifo ar sail maint y cyngor. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Yn anffodus mae rhai aelodau wedi cael y profiad yma; ond mae’r holl gynghorau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu cefnogaeth i aelodau sy’n destun unrhyw ddifrïo a hefyd i ymgyrchu yn ei erbyn. Mae arweiniad i aelodau ynghylch sut i ddelio â hyn. Os mai cynghorwyr eraill sydd y tu ôl i’r difrïo ar-lein, gallwch chi gwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n gallu disgyblu aelodau. Os bydd y difrïo yn troi’n aflonyddu neu’n fygythiol, mae’r heddlu yn gallu gweithredu yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Mae cynghorwyr o dod o bob cefndir a gallu. Mae hyn yn bwysig er mwyn iddyn nhw gynrychioli eu cymunedau eu hunain. Mae angen i gynghorwyr feddu ar ystod o brofiadau, cefndiroedd cyflogaeth a chymwysterau. Fel aelod bydd angen i chi allu deall adroddiadau mae swyddogion cyngor yn eu hysgrifennu cyn i chi wneud penderfyniadau. Hefyd bydd disgwyl i chi wneud y rhan fwyaf o’ch gwaith ar gyfrifiadur a meddu ar sgiliau pobl da i weithio gyda phawb yn y gymuned. Mae’r rhan fwyaf o aelodau’n dweud mai dealltwriaeth o’ch cymuned, parodrwydd i wrando a dysgu a thipyn o synnwyr cyffredin yw’r cyfan sydd ei angen arnoch chi.

Bydd pob cyngor yn cynnal rhaglen ymgyfarwyddo ar gyfer aelodau newydd i ddangos i chi pwy yw pwy a ble mae pawb, wedi ei dilyn gan raglen gynefino neu sefydlu i’ch helpu i ddeall eich rôl chi, gweithdrefnau’r cyngor a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch chi, er enghraifft i gadeirio cyfarfod neu gymryd rhan mewn cyfweliad radio. Bydd hyfforddiant parhaus yn cael ei ddarparu yn dibynnu beth yw eich anghenion.

Mae cynlluniau cysgodi a mentora ar gael i rai grwpiau o bobl. Cysylltwch â’r cyrff hyn i weld a oes modd i’w cynlluniau nhw eich helpu chi.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld sut gallan nhw helpu. Beth am wylio’r gwe-ddarllediadau o gyfarfodydd cyngor i gael blas ar yr hyn sy’n cael ei drafod neu fynychu cyfarfod fel aelod o’r cyhoedd? Gallwch chi ofyn cwestiynau mewn cyfarfodydd cyngor hefyd neu ddod â mater i gyfarfod craffu. Bydd gwefannau cynghorau lleol yn esbonio sut mae gwneud hyn. Cysylltwch â adran gwasanaethau democrataidd eich cyngor a gofyn a fyddai unrhyw gynghorwyr wrth eu gwaith yn gallu trafod eu gwaith gyda chi.

Efallai yr hoffech chi ystyried sefyll fel ymgeisydd mewn cyngor cymuned neu gyngor tref i ennill profiad gwerthfawr.

Corff aelodaeth yw CLILC sy’n cynrychioli’r holl gynghorau yng Nghymru. Mae’n cael ei arwain gan arweinwyr gwleidyddol pob cyngor sy'n gwneud yn siŵr bod llywodraeth leol yng Nghymru yn gallu gweithio ar y cyd a siarad gydag un llais, er enghraifft, gyda Llywodraeth Cymru. Mae CLILC hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i gynghorau, swyddogion a chynghorwyr mewn meysydd polisi gwahanol.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2020 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)