Mae swyddogion yn gyflogeion sy’n gweithio i’r cyngor. Maen nhw’n rheoli ac yn cyflawni gwaith y cyngor ac yn helpu cynghorwyr i roi eu polisïau ar waith. Yn y rhan fwyaf o gynghorau mae miloedd o swyddogion sy’n gweithio er enghraifft fel athrawon, gweithwyr gofal, llyfrgellwyr, casglwyr sbwriel, cynllunwyr tref a swyddogion diogelwch bwyd. Mae’r Cyngor yn cael ei reoli gan Brif Weithredwr ac Uwch Dîm Rheoli sy’n gweithio’n agos gydag arweinydd gwleidyddol y Cyngor a’r Cabinet.
Mae swyddogion yn weithwyr proffesiynol sy’n niwtral yn wleidyddol, yn arbenigwyr yn eu maes, sydd â dyletswydd i roi cyngor diduedd i gynghorwyr i’w helpu i wneud y penderfyniadau cywir. Fel cynghorydd byddai angen i chi ddatblygu perthnasau proffesiynol da â nhw a pharchu eu gwybodaeth a’u profiad hyd yn oed os nad ydych chi bob amser yn cytuno â nhw.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai’r dreth gyngor yw'r brif ffynhonnell arian i gynghorau, ar gyfartaledd ar draws Cymru, mae ond yn cyfrif am ryw 25% o incwm cynghorau. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli bod bil y dreth ‘Gyngor’ maen nhw’n ei dalu bob blwyddyn yn cyfrannu at yr heddlu lleol, cynghorau cymuned a thref a gwasanaethau tân ac achub hefyd.
Mae’r rhan fwyaf o gyllid cynghorau lleol yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru, drwy gyfrwng Grant Cymorth Refeniw (RSG). Mae cynghorau yn cynhyrchu ychydig o incwm hefyd drwy godi taliadau a ffioedd, fel meysydd parcio, taliadau canolfannau hamdden neu ffioedd cynllunio.
Mae cyllidebau cynghorau’n lleihau, ar adeg pan fo anghenion yn cynyddu o ganlyniad i dwf yn y boblogaeth felly mae’n rhaid i gynghorau wneud penderfyniadau anodd am dorri gwasanaethau a cholli swyddi. Fodd bynnag, maen nhw hefyd yn edrych ar ddulliau newydd a gwahanol o weithio fel darparu rhai gwasanaethau’n ddigidol neu weithio gyda gwirfoddolwyr y gymuned leol.
"Agreeing a budget has never been easy but local councillors play a hugely important role in helping to prioritise and balance community needs against the money that is available. It is a difficult but vital role. We are faced with a reduction in budgets year after year resulting in cut after cut in services, especially in the non-statutory sector which involves services valued by so many of our constituents i.e. public toilets.
We were elected to represent our community and to improve services, the lack of funding inevitably causes stress and bitterness especially when it affects your community or services close to one’s heart."
Mae’n rhaid o dan y gyfraith i rai o’r gwasanaethau drud mae cynghorau yn eu darparu fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol a thai, gael eu darparu i safonau penodol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i fwyafrif cyllideb cyngor gael ei wario ar y gwasanaethau hyn. Yna mae’n rhaid i’r Cyngor wneud penderfyniadau ynghylch sut i ariannu gwasanaethau pwysig fel cynnal yr amgylchedd lleol, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a’r celfyddydau.
Cynghorau Lleol
Mae 22 awdurdod lleol yng Nghymru gyda rhyw 1254 o gynghorwyr. Maen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLILC) sydd wedi datblygu’r wefan hon yn eu cynrychioli nhw i gyd.
Senedd Cymru
Mae 40 Aelod etholaeth o'r Senedd (AS) ac 20 Aelod Rhanbarthol o'r Senedd (AS).
Mae dryswch yn aml rhwng y Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru. Senedd Cymru yw'r Senedd ac mae'n craffu ar Lywodraeth Cymru ac yn deddfu.
Gwefan: www.senedd.cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys Gweinidogion Cymru ac yn gosod yr Agenda Genedlaethol i Gymru ym meysydd (er enghraifft) Llywodraeth lleol, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr amgylchedd, cynllunio, trafnidiaeth a datblygiad economaidd.
Gwefan: www.llyw.cymru/
Senedd y DU
Mae Senedd y DU yn craffu ar Lywodraeth y DU ac yn deddfu ar faterion sydd heb eu datganoli. Mae 40 o ASau o Gymru.
Gwefan (Saesneg yn unig): www.parliament.uk/
Er bod llywodraeth leol, iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill wedi'u datganoli i Gymru, mae Llywodraeth y DU yn effeithio ar lywodraeth leol drwy faterion sydd heb eu datganoli megis plismona, y system fudd-daliadau, cyllid ar ôl Brexit a phennu Cyllideb y DU, sy'n effeithio ar faint o gyllid sector cyhoeddus sydd ar gael yng Nghymru.
Gwefan - Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru - GOV.UK ( www.gov.uk)
Cynghorau Cymuned a Thref
Mae 735 o gynghorau cymuned a thua 8000 o gynghorwyr cymuned yng Nghymru. Mae cyngor cymuned neu dref mewn llawer o gymunedau ond nid ym mhob un.
Maen nhw’n cyflenwi gwasanaethau fel cynnal meysydd chwarae, parciau a mannau agored, neuaddau pentref, rhandiroedd a mynwentydd. Mae gan Un Llais Cymru, y sefydliad sy’n eu cynrychioli, fwy o wybodaeth ar eu gwefan.
Mewn rhai achosion mae cynghorwyr yn eistedd ar gyngor sir ac ar gyngor cymuned neu dref. Mae awdurdodau lleol yn gweithio’n agos gyda’u cynghorau cymuned a thref lleol i gyflenwi gwasanaethau i bobl leol.