Gallwch chi sefyll i'ch ethol yn ymgeisydd annibynnol neu'n ymgeisydd grŵp/plaid wleidyddol. Os ydych chi’n aelod o blaid neu’n bwriadu ymuno neu sefyll fel aelod o blaid wleidyddol bydd ei hasiantau yn gweithio ar eich rhan. Os ydych chi’n sefyll fel aelod annibynnol, bydd angen i chi ofyn am gyngor gan asiantau gwahanol.
Y prif bleidiau gwleidyddol yw:
Plaid Brexit (Saesneg yn unig) https://www.thebrexitparty.org
Plaid Cymru https://www.plaid.cymru
UKIP (Saesneg yn unig) https://www.ukip.org/
Plaid Werdd Cymru https://wales.greenparty.org.uk
Ceidwadwyr Cymru (Saesneg yn unig) www.welshconservatives.com
Llafur Cymru (Saesneg yn unig) www.welshlabour.wales
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru www.demrhyddcymru.cymru/
Os oes eisiau mwy o wybodaeth arnoch am rôl cynghorydd annibynnol, mae gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol grŵp (Saesneg yn unig) ar gyfer cynghorwyr annibynnol.
Mae rhestr lawn o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ar gael gan y Comisiwn Etholiadol. Maen nhw hefyd yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghylch sefyll mewn etholiad megis:
- ymgyrchu
- derbyn rhoddion
- gwario arian
- eich hawliau fel ymgeisydd, gan gynnwys mynediad i drafodion etholiadol
- adrodd ar ôl yr etholiad.
Os ydych chi’n cefnogi plaid wleidyddol, maent yn chwilio nawr am bobl sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu plaid. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n aelod o blaid yn barod, gallwch ymuno’n hawdd. Mae rhai pleidiau yn ei gwneud yn ofynnol i chi fod wedi bod yn aelod am gyfnod penodedig cyn i chi fod yn gymwys i fod yn ymgeisydd.
"Yn Neuadd y Sir, rwy wedi bod yn weithgar o fewn fy ngrŵp gwleidyddol, ac ar nifer o bwyllgorau a gweithgorau. Yn ddiweddar rwy wedi rhoi cynnig gerbron sydd wedi cael ei basio gan y cyngor.
Mae bod yn gynghorydd wedi golygu dysgu cryn dipyn ac wedi bod yn ddiddorol iawn, gyda’r cyfle i gwrdd â llawer o bobl wahanol a gwneud llawer o bethau gwahanol. Ond mae toriadau i arian llywodraeth leol a chyni ariannol wedi bod yn anodd ac mae’n edrych petai eu heffaith yn mynd i frathu’n ddyfnach byth yn y blynyddoedd nesaf, sy’n golygu bod y cyngor bob amser dan bwysau i wneud mwy gyda llai.""
Os ydych chi wedi cael eich dethol gan blaid fel ymgeisydd neu os ydych chi’n sefyll fel ymgeisydd annibynnol, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cael eich ‘enwebu’ yn swyddogol. Mae hyn yn golygu llenwi papur enwebu y mae’n rhaid iddo gael ei lofnodi gan o leiaf 10 etholwr cofrestredig y ward etholiadol lle rydych chi’n dymuno sefyll. Mae’r papurau hyn ar gael o adran gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol. Mae’n rhaid hefyd i chi roi eich cydsyniad yn ysgrifenedig i gael eich enwebu.
Os ydych chi’n ymgeisydd dros blaid wleidyddol gofrestredig, mae’n rhaid i chi gyflwyno tystysgrif gan swyddog enwebu’r blaid, sy'n eich awdurdodi chi ynghyd â’ch defnydd o ddisgrifiad ac emblem y blaid. Os ydych chi’n sefyll yn annibynnol, dim ond fel ymgeisydd ‘annibynnol’ y gallwch ddisgrifio'ch hun neu fel arall peidio â rhoi unrhyw ddisgrifiad o gwbl.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefyll i'ch ethol yn etholiadau 2022, bydd angen i chi ddechrau paratoi nawr!