Cynghorydd Emily Durant

Mae Emily yn fam sengl i ddau o fechgyn, wrth ei bodd gyda ieir, yn rhedeg mynyddoedd, yn swyddog gweithredol rhan amser i elusen ac yn ymddiriedolwr elusen. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.

“Mae bod yn rhan o gymuned wastad wedi bod yn bwysig iawn i mi a phan ymgeisiais i yn yr etholiad yn 2017, roeddwn i'n teimlo mai dyma'r adeg iawn i gymryd fy rôl yn Llangors fwy o ddifrif ac ymroi fy hun i roi llais i’r trigolion a chyflawni pethau. Mae gweld yr hyn y mae’n bosib ei gyflawni pan mae pobl o bob rhan o’r gymuned yn cydweithio wastad yn ysgogiad ac yn ysbrydoliaeth i mi.

Roeddwn i eisiau cynnig gwell diogelwch ar y ffyrdd i gerddwyr mewn aneddiadau allweddol, rhoi hwb i gyfleusterau lleol ac edrych ar gludiant lleol cynaliadwy. Rydw i’n falch o fod wedi gwneud cynnydd da ar ddiogelwch ar y ffyrdd a chyfleusterau lleol, ond mae system gludiant gynaliadwy hirdymor yn dal i fod yn bell o gael ei gwireddu! Rydw i’n falch iawn o fod wedi gosod dau gynnig llwyddiannus ger bron y Cyngor i’w wneud yn fwy gwyrdd ac rydw i wrthi’n gweithio ar y nesaf. Mae un Cynghorydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Mae bod yn Gynghorydd ochr yn ochr â fy nghyfrifoldebau eraill wedi galw am dipyn o waith cydbwyso, ac wedi bod yn fwy byth o her gydag addysgu o gartref ar ben popeth. Ond rwy'n ei ystyried yn fraint ac yn ddiolchgar am y cyfle, ac fe fyddwn i'n ei argymell i unrhyw un."

Mae Emily yn Aelod o Bwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau a Phwyllgor Cynllunio.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)