Cynghorydd Jackie Charlton

Mae Jackie yn amgylcheddwr brwd, yn cadw gwenyn ac yn Gadeirydd Coetir Cymunedol Llangatwg. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.

“Rydw i wedi bod yn amgylcheddwr brwd ers y flwyddyn 2000, yn gweithio'n lleol gyda grwpiau oedd eisiau canolbwyntio ar fanteision Agenda 21.

Rydw i hefyd yn hollol fyddar, allai fod wedi bod yn rhwystr i fy mywyd cyhoeddus, ond mae Cymorth Gwasanaethau Democrataidd fy Nghyngor Sir wedi fy ngalluogi i gyflawni fy nyletswyddau yn ddi-rwystr. Mae i’w weld yn amser maith yn ôl bellach pan oeddwn i'n actifydd delfrydgar cymharol ifanc a gychwynnodd gysylltu gwleidyddiaeth â'r amgylchedd. Agenda 21 oedd y mudiad amgylcheddol byd-eang cyntaf oedd yn canolbwyntio ar faterion lleol. Gallai cymaint o bobl uniaethu â chymaint o gynnwys Agenda 21. Cynigiodd hyn lwyfan i ddod yn wleidyddol ymwybodol a gweld bod posib gwneud gwahaniaeth. Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd ers 2017, rydw i wedi canfod y cysylltiadau i ddod â’r gymuned yn agosach at gyflawni ar newid hinsawdd, ac yn 2020, bûm yn rhan o Gynnig llwyddiannus i’r Cyngor i ddatgan Argyfwng Hinsawdd, gan amlygu materion byd-eang gyda chamau gweithredu lleol. Credaf mai dyma rôl y cynghorydd sir, sicrhau bod y gymuned yn cysylltu ac yn weithgar er mwyn gwella pethau i bawb."

Mae Jackie yn Aelod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)